Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
25 Medi 2017
SL(5)118 – Rheoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol sydd newydd ei sefydlu, sef corff annibynnol i gynghori Gweinidogion Cymru ac awdurdodau rheoli risg Cymru ar faterion yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Deddf Wreiddiol: Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Fe’u gwnaed ar: 7 Awst 2017
Fe’u gosodwyd ar: 10 Awst 2017
Yn dod i rym ar: 11 Medi 2017
SL(5)121 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r personau a’r categorïau o bersonau y caiff person yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am fyfyrwyr iddynt. Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi’r math o wybodaeth am fyfyrwyr y caniateir ei rhannu, a’r amgylchiadau y caniateir rhannu’r wybodaeth honno ynddynt.
Deddf Wreiddiol: Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009
Fe’u gwnaed ar: 7 Medi 2017
Fe’u gosodwyd ar: 11 Medi 2017
Yn dod i rym ar: 6 Hydref 2017
SL(5)122 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Gyrchfannau) (Gweithgareddau Rhagnodedig) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Bydd y Rheoliadau hyn yn caniatau i Lywodraeth Cymru rannu â sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ddata y mae eisoes yn eu casglu am gyrchfannau dysgwyr unigol o amrywiol ffynonellau â sefydliadau ar lefel dysgwyr, cyn eu cyhoeddi ar ffurf cydgasgledig. Yn ogystal â galluogi sefydliadau i wirio eu data cyn eu cyhoeddi, bydd yn gwella hyder o ran gwybodaeth am berfformiad a gaiff ei chyhoeddi, ac yn cynorthwyo sefydliadau i wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr, i wneud penderfyniadau doeth am ba ddarpariaeth i’w chynnig, ac i roi cyngor priodol am yrfaoedd drwy wella eu dealltwriaeth o’r canlyniadau a gyflawnir gan eu dysgwyr.
Deddf Wreiddiol: Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992
Fe’u gwnaed ar: 7 Medi 2017
Fe’u gosodwyd ar: 11 Medi 2017
Yn dod i rym ar: 6 Hydref 2017
SL(5)123 – Rheoliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a gweithdrefnau Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Awdurdod Iechyd Arbennig yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gan Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017.
Deddf Wreiddiol: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Fe’u gwnaed ar: 11 Medi 2017
Fe’u gosodwyd ar: 13 Medi 2017
Yn dod i rym ar: 5 Hydref 2017
SL(5)124 – Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae'n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac mae'n gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a'i gyfansoddiad.
Deddf Wreiddiol: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Fe’u gwnaed ar: 11 Medi 2017
Fe’u gosodwyd ar: 13 Medi 2017
Yn dod i rym ar: 5 Hydref 2017